16 Hydref 2023
Datganiad y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
Biliau â phwnc gwarchodedig: y gofyn am uwchfwyafrif
Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Yn fy marn i, yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, nid yw darpariaethau Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
Y Llywydd